Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Simon Dean, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Llywodraeth Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Glastir
1.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gytuno i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.
1.2 Yn dilyn y sesiwn honno, bydd yr Aelodau'n trafod a ydynt am gynnal unrhyw waith arall yng nghyswllt Glastir.
2 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru drosolwg byr o brif ganfyddiadau ei adroddiad i'r Aelodau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
3 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (27 Hydref 2014)
4.2 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru
4.3 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Mike Shooter (3 Tachwedd 2014)
4.4 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol
4.5 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (4 Tachwedd 2014)
4.6 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Cadeirydd at Dr Andrew Goodall (6 Tachwedd 2014)
5 Cyllid Iechyd 2013-14
5.1Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a Martin Sollis, Llywodraeth Cymru, ynghylch Cyllid Iechyd 2013-14.
5.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn ar y canlynol:
· Casgliad Canolfan Metaddadansoddi Cochrane (2012) bod y driniaeth pan fo pwysedd gwaed yn ymylu ar fod yn uchel yn fwy tebygol o niweidio cleifion na'u helpu, ac eithrio yn achos diabetes, a bod hynny'n un o'r contractau fframwaith ansawdd a deilliannau ar gyfer meddygon teulu
· Sut y rhoddir ystyriaeth i ardaloedd gwledig wrth ddyrannu unrhyw adnoddau yn y dyfodol
· Rheoli meddyginiaethau
· Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn yr amcan gofal iechyd darbodus
· Gweithio gyda chyfarwyddwyr gweithluoedd yng Nghymru, amlinellu eu dull gweithredu o ran polisïau disgyblu a sut y gellir cyflymu'r broses
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Cyllid Iechyd 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a godwyd.
7.2 Nododd y Pwyllgor fod disgwyl i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros gael ei gyhoeddi yn fuan a chytunodd i'w drafod cyn cyflwyno adroddiad.